P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud rhagor er mwyn hwyluso’r broses o ddarparu band eang ffibr optig / band eang y genhedlaeth nesaf i bawb yng Nghymru, gan gynnwys y sector eFasnach a busnesau cyfathrebu newydd (yn y diwydiant TG), erbyn 2013. Dylid sicrhau hefyd bod busnesau sydd eisioes yn bodoli yn gallu cyfathrebu â’i gilydd yn well ac y byddai’r ddarpariaeth o fudd i’r cymunedau lleol yn ogystal. Er enghraifft, yn y Cymoedd, mae cyflymder y rhyngrwyd sydd ar gael i nifer o deuluoedd a busnesau yn araf iawn o’i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Diben y ddeiseb hon yw galw am osod ffibr optig yn yr ardaloedd hyn, lle mae busnesau eisioes wedi’u sefydlu, er mwyn helpu i adfywio’r ardaloedd mwyaf tlawd yng Nghymru/Wales.

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 7 Chwefror 2012

Nifer y deisebwyr: 17

 

Gwybodaeth ategol:Ar hyn o bryd, y darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd eu hunain sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rhyngrwyd cyflym i ardaloedd penodol, ac fe’u hannogir yn rhannol (ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd) i ddarparu gwasanaeth rhyngrwyd cyflym mewn ardaloedd gwledig. Er enghraifft Ofcom a Fujitsu. Fodd bynnag, nid yw hon yn fenter yng Nghymru ac rwyf o’r farn y gallai greu gwaith yng Nghymru petai’r Cynulliad yn galw amdano. Byddai hyn o fudd mawr i gwmnïau o ran cyfathrebu ac eFasnachu ac o ran denu busnesau newydd i Gymru.